Holl amrantau’r sêr ddywedant
Ar hyd y nos
Dyma’r ffordd i fro gogoniant
Ar hyd y nos.
Golau arall yw tywyllwch
I arddangos gwir prydferthwch
Teulu’r nefoedd mewn tawelwch
Ar hyd y nos.

O mor siriol, gwena seren
Ar hyd y nos
I oleuo’i chwaer ddaearen
Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd
Ond i harddu dyn a’i hwyrddydd
Rhown ein golau gwan da’n gilydd
Ar hyd y nos.

Leave a Reply